Ewch yn syth i’r prif gynnwys
Porth y Llywodraeth

Hysbysiad preifatrwydd

Mae Porth y Llywodraeth wedi’i ddarparu gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) i adrannau’r llywodraeth. Cyfeirir at CThEF fel ‘ni’ drwy gydol yr hysbysiad hwn.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol.

Diben yr hysbysiad hwn

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn unol â chyfraith diogelu data, gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data (DPA) 2018.

Pa ddata yr ydym yn eu casglu

Mae’r data personol yr ydym yn eu casglu oddi wrthych yn cynnwys:

  • eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
  • gwybodaeth am y ddyfais (er enghraifft ffôn neu liniadur) y gwnaethoch ei defnyddio
  • y cysylltiad rhyngrwyd y gwnaethoch ei ddefnyddio
  • manylion eich swydd, er enghraifft pa hawliau sydd gennych i fwrw golwg dros ddata penodol
  • eich rhif ffôn, os ydych yn gosod diogelwch ychwanegol er mwyn cael codau cyrchu drwy neges destun neu alwad llais. Defnyddir eich rhif ffôn at ddibenion dilysu yn unig.

Pam yr ydym yn casglu’ch data personol

Rydym yn casglu’ch data personol i’ch helpu i ddefnyddio gwasanaethau’r llywodraeth yn ddiogel. Rydych yn defnyddio Porth y Llywodraeth i gadarnhau pwy ydych ac rydym yn anfon yr wybodaeth hon i wasanaeth y llywodraeth yr ydych yn ceisio ei ddefnyddio.

Gall pobl awdurdodedig yn CThEF, sefydliadau cyflenwi, adrannau eraill o’r llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus fwrw golwg dros y data hyn er mwyn gwneud y canlynol:

  • caniatáu i chi ddefnyddio gwasanaethau’r llywodraeth
  • gwella Porth y Llywodraeth drwy fonitro sut y caiff ei ddefnyddio gennych
  • casglu adborth i wella Porth y Llywodraeth
  • ateb unrhyw adborth a anfonwch atom, os ydych wedi gofyn i ni wneud hynny

Cadw’ch data’n ddiogel

Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i ddiogelu’ch gwybodaeth.

Mae diogelu’ch data yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif. Mae gennym safonau diogelwch llym, ac mae ein holl staff a phobl eraill sy’n prosesu data personol ar ein rhan yn cael hyfforddiant rheolaidd ynghylch sut i gadw gwybodaeth yn ddiogel.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau technegol, ffisegol a rheolaethol priodol ar waith i ddiogelu’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi.

Dim ond y sawl sydd ag angen busnes neu gyfreithiol fydd yn gweld eich gwybodaeth bersonol.

Pan fyddwn yn defnyddio darparwyr gwasanaeth trydydd parti, byddant ond yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol yn unol â’n cyfarwyddyd neu gyda’n cytundeb ni, ac ar yr amod eu bod wedi cytuno i drin yr wybodaeth yn gyfrinachol ac i’w chadw’n ddiogel.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw doriadau drwgdybiedig o ran diogelwch data, a byddwn yn rhoi gwybod i chi a’r rheoleiddiwr am doriad drwgdybiedig pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Dylech atal defnydd anawdurdodedig neu dwyllodrus o’ch manylion, er enghraifft drwy ddefnyddio cyfrineiriau diogel.

Pa mor hir yr ydym yn cadw’ch data

Tra bo’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth yn weithredol, bydd eich data personol yn ein meddiant.

Fel arfer, bydd data monitro trafodiadau, archwiliadau a data a gesglir gan y llywodraeth yn cael eu cadw am saith mlynedd, ond dylech ddarllen y polisïau cadw data sy’n berthnasol i’r gwasanaethau llywodraeth hyn cyn i chi eu defnyddio.

Os na fyddwch yn mewngofnodi am 3 flynedd, caiff eich manylion eu dileu.

Monitro trafodiadau

Er mwyn diogelu’ch data a’n gwasanaeth, rydym yn gweithredu cyfleuster monitro trafodiadau. Mae hwn yn cofnodi sut yr ydych yn cysylltu â’n systemau, a’r hyn yr ydych yn ei wneud wrth i chi eu defnyddio. Darllenwch ragor yn ein Hysbysiad Preifatrwydd Monitro Trafodiadau.

Rhannu’ch gwybodaeth

Mae’n bosibl y rhannwn eich gwybodaeth bersonol os oes dyletswydd gyfreithiol arnom i wneud hynny.

Trosglwyddo data dramor

Byddwn yn rhannu gwybodaeth am eich dyfais, gan gynnwys ei chyfeiriad IP, gyda chyflenwr trydydd parti sydd â chanolfannau data wedi’u lleoli yn yr UE ac UDA, ac sy’n cydymffurfio â Fframwaith Diogelu Preifatrwydd yr UE ac UDA.

Eich hawliau

O dan rai amgylchiadau, mae gennych yr hawl yn ôl y gyfraith i:

  • ofyn am gael cyrchu eich gwybodaeth bersonol
  • gofyn am gael cywiro’ch gwybodaeth bersonol
  • gofyn am gael dileu gwybodaeth
  • gwrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu

Mae manylion ynghylch sut i gysylltu â Swyddog Diogelu Data CThEF, sut i gysylltu â CThEF neu sut i wneud cwyn ar gael yn Hysbysiad Preifatrwydd CThEF.

Gallwch hefyd gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cwcis a dadansoddeg

Gallwch ddarllen ein polisi cwcis llawn i gael gwybod sut yr ydym yn defnyddio cwcis i olrhain teithiau defnyddwyr gan ddefnyddio Google Analytics.

Cysylltiadau i wasanaethau eraill y llywodraeth

Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn cwmpasu gwasanaethau eraill y llywodraeth yr ydym yn cysylltu â nhw. Dylech ddarllen polisïau preifatrwydd sy’n berthnasol i wasanaethau eraill y llywodraeth cyn i chi eu defnyddio.

Newidiadau i’r hysbysiad hwn

Efallai y gwnawn addasu neu ddiwygio’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd unrhyw addasiad neu ddiwygiad i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’ch data ar unwaith. Fe’ch anogwn i adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd i gael gwybod y diweddaraf am y modd yr ydym yn diogelu’ch data.

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 8 Mawrth 2021.